Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(21)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch Prifysgol Cymru, yn sgil datblygiadau diweddar. EAQ(4)0052(ESK)

 

 

</AI2>

<AI3>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Partneriaeth Tai Cymru (45 munud)

</AI4>

<AI5>

4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Twf Swyddi Cymru (45 munud)

</AI5>

<AI6>

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol (45 munud)

</AI6>

<AI7>

6. Dadl ar Gyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (60 munud) 

 

NDM4819 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn her barhaus; a

2) Yn cydnabod pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod y Wladwriaeth, yn rhy aml, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau bywyd plant unwaith y byddant mewn gofal.

Gellir gweld canfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://www.centreforsocialjustice.org.uk/default.asp?pageRef=316

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r diffygion mewn darparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru.

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.complantcymru.org.uk/cy/rhestr-cyhoeddiadau/

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cyflwyno Bwrsariaeth Cenedlaethol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn cefnogi plant sy’n derbyn gofal sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai dim ond 1 plentyn o bob 10 sy’n gadael gofal sy’n cael 5 TGAU gradd A* i C.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau byw a ffïoedd dysgu llawn plant oedd yn derbyn gofal sy’n fyfyrwyr mewn prifysgol.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y ddyletswydd gofal i 21 oed, pa un a yw’r plentyn yn aros mewn addysg ai peidio, er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.

 

</AI7>

<AI8>

Cyfnod pleidleisio

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 12 Hydref 2011

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>